top of page

“Beth am rywbeth newydd a buddiol? Gallai fod yn Ymddiriedolwr elusen fod yn ddewis delfrydol”



Gan ein bod ar hyn o bryd yn Wythnos yr Ymddiriedolwyr (2-6 Tachwedd), wnaeth yr elusen iechyd meddwl a lles, Advance Brighter Futures (ABF), ddal I fyny gyda’i ymddiriedolwr mwyaf newydd, Rick Bedson, i weld sut yr oedd yn setlo i mewn i’r rôl.


Mae Rick yn gweithio i Goleg Cambria fel Pennaeth Ystadau a Chyfleusterau ac mae ganddo brofiad helaeth o reoli ystadau ac hefyd iechyd a diogelwch. Dechreuodd ymwneud â’r elusen am y tro cyntaf yn 2018, ar ôl i’w ffrind a’i gydweithiwr 17 oed, Tony Richards, farw drwy hunanladdiad.


Eglura Rick: “Roedd hunanladdiad Tony heb unrhyw rybudd. Cafodd effaith fawr arnaf i a’r tîm. O ganlyniad, penderfynodd y tîm godi arian yn enw Tony a’i roi i elusen iechyd meddwl.


Wrth ddewis elusen daethom ar draws Advance Brighter Futures; elusen fach, leol sy’n cefnogi’r rhai â phryderon iechyd meddwl. Cytunodd y tîm y byddem yn rhoi’r arian i ABF ac yn gweithio gyda’r elusen yn y dyfodol yng nghof Tony.”


Parhaodd Rick i ymwneud mwy â’r elusen o’r pwynt hwn, ymlaen ac yn y pen draw wnaeth Rick ddod yn ymddiriedolwr ym mis Ionawr 2020.


Ychwanegodd Rick: “O’r hyn roeddwn i wedi’i ddysgu, roeddwn i’n credu y gallai agweddau o’m mhrofiad, gwybodaeth ac arbenigedd fod yn ddefnyddiol i’r elusen a chynorthwyo ABF i ddatblygu ymhellach. Roeddwn yn falch o gael y cyfle i gyfrannu at achos mor werth chweil a datblygu’r cysylltiad rhwng ABF a thîm ystadau coleg Wrecsam.”


Mae cael Rick fel un o’r ymddiriedolwyr wedi bod yn amhrisiadwy i’r elusen, yn enwedig gyda’r holl heriau sydd wedi dod o’r pandemig Covid-19.


Dywedodd Lorrisa Roberts, Prif Swyddog ABF: “Mae sgiliau Rick wedi bod yn bwysig iawn i ni ers iddo ymuno â’n bwrdd ymddiriedolwyr. Yn ystod y misoedd diwethaf mae gorfod dod yn Ddiogel Covid wedi rhoi pwyslais ychwanegol ar iechyd a diogelwch i ni, felly mae cael rhywun sydd â phrofiad gwych yn y maes hwn wedi bod mor ddefnyddiol. Mae wedi chwarae rhan fawr yn y gwaith o wneud ein hadeilad yn 3 Belmont Road yn Covid-ddiogel a datblygu gweithdrefnau i ailagor y safle.”


Mae Rick wedi dod yn aelod poblogaidd iawn o’r tîm am fwy na dim ond ei sgiliau.

Aeth Lorrisa ymlaen: “Mae Rick mor boblogaidd gan ei fod wedi taflu ei hun mewn i’r gwaith o fod yn ymddiriedolwr gyda ni. Mae bob amser yn cymryd rhan yn y cyfarfodydd ac mae ar gael i helpu lle bynnag y gall. Dyna’r peth mwyaf i ni mewn gwirionedd, cael person arall sydd wir eisiau helpu ac ychwanegu at yr hyn ydym yn gwneud yma.”


Mae Rick yn awyddus i bwysleisio y manteision o fod yn ymddiriedolwr mewn elusen, gan ddweud “Os ydych am helpu eraill, fod gennych yr amser, a’ich bod yn chwilio am rywbeth newydd a buddiol, gallai dod yn ymddiriedolwr elusen fod yn ddewis delfrydol.


“Mae wedi bod yn bleserus iawn. Rwy’n rhan o dîm brwdfrydig, sy’n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion y rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau, a gallaf gyfrannu fy ngwybodaeth a’m sgiliau i gynorthwyo eraill. Byddwn yn ei argymell i eraill, heb oedi.”


Os oes gennych ddiddordeb mewn ddod yn ymddiriedolwr yn Advance Brighter Futures, cysylltwch â’r elusen drwy ffonio 01978 364777 neu anfonwch e-bost at info@abfwxm.co.uk am sgwrs anffurfiol.


Ychwanegodd Lorrisa: “Rydyn ni bob amser yn edrych allan am ymddiriedolwyr newydd i’n helpu ni. Os oes gennych amser a sgiliau y gallwch eu cyflwyno i’r bwrdd rheoli, byddem wrth ein bodd i glywed gennych. Mae ein ymddiriedolwyr yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith gwych rydym yn cyflawni yn ABF.”

Comentarios


bottom of page