Codwyd dros £ 500 er budd elusen iechyd meddwl a lles Wrecsam, Advance Brighter Futures (ABF) ar Gae Ras Bangor-is- y-Coed yn ddiweddar.
Codwyd cyfanswm gwych o £ 553.34 ddydd Mawrth, Hydref 26ain,yn y rasys wrth i bobl roi rhoddion hael yn y bwcedi casglu a oedd o amgylch y cae ras.
Mae ABF wedi darparu cefnogaeth iechyd meddwl a lles yn Wrecsam er 1992, a bydd yr arian a godir yn mynd tuag at gefnogi pobl yn y gymuned leol.
Dywedodd Cath Taylor, Swyddog Datblygu Busnes yn ABF: “Hoffem ddiolch i Rasys Bangor am ein gwahodd. Roedd awyrgylch gwych trwy’r dydd, ac roedd pawb yn hael iawn gyda’u rhoddion i ni. Dim ond elusen fach ydyn ni a bydd yr arian yn mynd yn uniongyrchol i helpu pobl leol yn ein cymuned. Mae angen ein gwasanaethau yn fwy nag erioed dros y misoedd diwethaf, ac rydym am helpu cymaint o bobl ag y gallwn. Bydd y rhoddion hyn yn caniatáu inni gefnogi mwy o bobl, felly maent yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr.”
Unrhyw un a oedd ddim yn y dydd rasys, ond sydd eisiau cyfrannu, gallwch roi rhodd i Advance Brighter Futures yma: https://visufund.com/the-heat-is-on-for-wrexham-mental-health-charity/?o=Z820674
Gallwch ddysgu mwy am yr elusen a’i gwaith trwy ymweld â www.advancebrighterfutureswrexham.co.uk
Comments