Cafodd elusen iechyd meddwl a lles Wrecsam Advance Brighter Futures (ABF) ymweliad yn ddiweddar gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.
Yng nghwmni Aelod o’r Senedd yn Wrecsam, Lesley Griffiths, aeth Lesley Griffiths gyda’r Prif Weinidog ar ymweliad ag adeilad yr elusen yn Belmont Road, Wrecsam ddydd Mercher, 7 Ebrill.
Cafodd y pâr eu cyfarch yn yr adeilad gan Brif Swyddog ABF Lorrisa Roberts, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr Rick Bedson, yn ogystal â’r Ymddiriedolwyr Rosemarie Williams a Phil Jones, a’r gwirfoddolwraig Fiona Edwards.
Mae Advance Brighter Futures yn elusen iechyd meddwl fach yn Wrecsam, sydd wedi’i cartrefu yn ei safle ei hun ers 2000. Mae’r elusen yn cefnogi dros 700 o bobl yn Wrecsam a Sir y Fflint a’r ardal o’u cwmpas bob blwyddyn, gyda hyd at 100 o bobl yn defnyddio’r adeilad cymunedol bob wythnos (cyn y pandemig).
Dyfarnwyd £145,818 i ABF y mis diwethaf gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru i wella ac ymestyn ei hadeiladau presennol, a bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr yn y gymuned leol.
Dywedodd Lesley Griffiths, AELOD Wrecsam: “Roedd yn bleser croesawu Mark Drakeford i Wrecsam unwaith eto ac ymweld â’r tîm gwych yn Advance Brighter Futures. Mae gofalu am eich lles meddyliol yn hollbwysig. Wrth i ni edrych ymlaen a dechrau ystyried bywyd ar ôl y pandemig, mae’n amlwg y bydd elusennau fel Advance Brighter Futures yn chwarae rhan bwysig.
“Mae hwn wedi bod yn gyfnod hynod o heriol i bob un ohonom, ond bydd y buddsoddiad diweddaraf hwn gan Lywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau y gall ABF ehangu eu gwasanaethau, gan eu galluogi yn y pen draw i gefnogi hyd yn oed mwy o bobl yn Wrecsam a’r cylch.”
Dywedodd Rick Bedson, Cadeirydd Ymddiriedolwyr ABF: “Roedd yn bleser gennym groesawu’r Prif Weinidog a Lesley i ABF yr wythnos diwethaf. Dim ond yn ddiweddar y cawsom wybod ein bod wedi derbyn y cyllid, a fydd yn anhygoel i’r bobl rydym yn eu cefnogi. Roedd y ffaith eu bod am ddod i weld beth rydym yn ei wneud yn uniongyrchol yn wych ac yn amlygu’r gwaith gwych y mae’r elusen yn ei wneud yn ein cymuned leol.”
Ychwanegodd Rosemarie Williams, Ymddiriedolwr ABF: “Rydym yn hynod falch o’n gwaith yn y gymuned leol, felly roedd cael y cyfle i ddweud wrth y Prif Weinidog am ein gwasanaethau a’r gwelliannau rydym yn eu gwneud i’n hadeilad yn wych. Mae elusennau bach yn arbennig, a gallant gyrraedd pobl nad yw y prif ffrwd yn llwyddo i gyrraedd weithiau. Cawsom ddangos sut mae ein helusen yn canolbwyntio ar dynnu sylw at gryfderau pobl ac mai dyma o ble mae ein llwyddiant yn deillio.”
Un o uchafbwyntiau’r Prif Weinidog oedd cael clywed gan Ymddiriedolwr ABF Phil Jones, a gwirfoddolwraig Fiona Edwards am eu teithiau personol fel pobl a ddaeth i’r elusen am gymorth am y tro cyntaf ond sydd bellach yn rhoi’n ôl i eraill drwy eu gwirfoddoli.
Dywedodd Phil Jones, Ymddiriedolwr ABF: “Cefais y lle gwych hwn pan sylwodd fy ngwraig ar boster yn ein siop leol. Roeddwn wedi bod yn gaeth i’r tŷ am chwe mis oherwydd fy mhryder difrifol ac roedd fel byw y tu mewn i swigod tra bod pawb arall yn byw mewn byd gwahanol i mi, ac ni allwn ddod o hyd i’m ffordd yn ôl yno. Dechreuais fynychu sesiynau ymlacio ABF, a dorrodd hwn y chwe mis o fod gartref, ac arweiniodd wedyn ataf yn mynychu hyfforddiant ffordd o fyw. Mae ABF yn rhan fawr o fy mywyd.”
Dywedodd Fiona Edwards, Gwirfoddolwraig ABF: “Mae ABF wedi rhoi bywyd yn ôl i mi, ac rwy’n byw ynddo, ond cyn hyn roeddwn ond yn goroesi. Agorwyd drws mawr, gwyn ABF am y tro cyntaf gan wraig hyfryd a ddaeth yn gefnogaeth wych ac sy’n dal i fod. Roeddwn i’n teimlo’n gartrefol ar unwaith. Gallwn ddweud na fyddwn i’n mynd ar goll a bod yn ffeil gyda rhif yn unig. Cyn i mi gael unrhyw help, doeddwn i ddim yn gallu mynd ar fws oherwydd pryder a’m OCD. Gallaf fynd ar y bws yn awr, a gwneud hynny’n rheolaidd. Rwyf wedi mynd o fod yn berson a gefnogir gan ABF i wirfoddolwraig yn yr elusen, gan gefnogi eraill fel cyfoedion.”
Ychwanegodd Lorrisa Roberts, Prif Swyddog ABF: “Ers hynny mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei fod wedi mwynhau straeon Phil a Fiona yn arbennig. Mae’r ddau ohonyn nhw’n enghreifftiau gwych i ddangos, hyd yn oed pan fyddwch chi’n teimlo ar eich isaf, bod ffordd yn ôl i fwynhau eich bywyd.”
Os ydych yn byw yn ardal Wrecsam ac yn cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl, gallwch ddysgu mwy am ABF a’r gwasanaethau sydd ar gael yma:
Ffôn: 01978 364777
E-bost: info@abfwxm.co.uk
Comments