Mae elusen iechyd meddwl a lles Wrecsam Advance Brighter Futures (ABF) yn annog aelodau Cydweithredol i ddewis ABF fel eu hachos lleol i gefnogi, er mwyn helpu i godi arian hanfodol ar gyfer yr elusen.
Mae Cronfa Gymunedol Leol y Co-op yn caniatáu i aelodau’r Co-op ddewis sefydliad cymunedol neu achos lleol y maent am ei gefnogi, gyda’r achos hwnnw’n ennill arian wrth i chi siopa.
Am bob £1 o wariant aelodau ar gynhyrchion a gwasanaethau brand Co-op , bydd 2c yn mynd i’w cyfrif aelodaeth, yn ogystal â’u hachos lleol dethol yn cael 2c hefyd. I gasglu gwobrau a chyfrannu at eu hachos, rhaid I’r aelodau sweipio neu sganio eu cerdyn aelodaeth pan fyddant yn siopa.
Advance Brighter Futures yw un o’r achosion lleol y gallwch ei ddewis i godi arian ar gyfer (tan 22 Hydref 2022), a gallwch ychwanegu eich cefnogaeth i’r elusen yma: https://membership.coop.co.uk/causes/61891
Mae ABF wedi darparu cymorth iechyd meddwl a lles yn Wrecsam ers 1992. Mae gan yr elusen weledigaeth i sicrhau nad oes unrhyw unigolyn sy’n profi problemau iechyd meddwl byth yn teimlo fel eu bod ar eu pennau eu hunain.
Gydag angen cynyddol am gymorth iechyd meddwl yn Wrecsam ers y pandemig, mae ABF yn gobeithio y gall aelodau’r Coop helpu’r elusen i godi digon o arian i ddarparu chwe chwrs cymorth cyntaf iechyd meddwl, a fydd yn galluogi 84 o gynorthwywyr cymorth cyntaf iechyd meddwl sydd wedi’u hyfforddi’n swyddogol yn y gymuned.
“GWNEWCH RYWBETH ANHYGOEL MEWN DIM OND CWPL O GLICIAU”
Dywedodd Cath Taylor, Swyddog Datblygu Busnes ABF: “Hoffem ddiolch i’r Co-op am ein dewis fel un o’i achosion yn y Gronfa Gymunedol Leol, ac rydym yn gobeithio’n fawr y bydd pobl yn ystyried ychwanegu eu cefnogaeth atom. Os oes gennych yr Ap Co-op, mae angen i chi glicio ar y tab aelodaeth, dod o hyd i ni a chlicio cymorth – fel y gallwch wneud rhywbeth anhygoel mewn dim ond ychydig o gliciau. Os nad ydych eisoes yn aelod o’r Co-op, dim ond ffi untro o £1 y mae’n ei gostio i ymuno, ac yna gallwch godi arian i chi a’ch achos dewisol wrth i chi siopa.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i’n holl gefnogwyr a chyllidwyr sy’n ein galluogi i gefnogi iechyd meddwl a lles yn ein hardal leol. Byddwn yn defnyddio’r arian a godir gan aelodau’r Co-op i hyfforddi mwy o bobl mewn cymorth cyntaf iechyd meddwl, sy’n elfen bwysig iawn yn yr hyn a wnawn. Mae canfod ac ymyrryd yn gynnar yn gwneud gwahaniaeth mawr ym maes iechyd meddwl, ac rydym am addysgu cymaint o bobl ag y gallwn ar hyn.”
Comments