top of page

“Mae’r codwyr arian hyn wedi bod mor bwysig i ni drwy’r pandemig”


Mae’r elusen iechyd meddwl a lles leol Advance Brighter Futures (ABF) am ddiolch i’r holl bobl sydd wedi creu achlysur codi arian i gefnogi’r elusen yn ddiweddar, gan fod angen yr arian hwn yn awr, yn fwy nag erioed, oherwydd y pandemig parhaus.


“CEFNOGAETH HANFODOL I NI”


Dywedodd Lorrisa Roberts, Prif Swyddog ABF: “Hoffem ddiolch o galon i bawb sydd wedi dewis ABF ar gyfer derbyn yr arian a codwyd, gan fod y rhain wedi bod yn gefnogaeth hanfodol i ni. P’un a yw’n godwr arian pen-blwydd, neu wedi’i wneud er cof am un annwyl, mae’r rhain i gyd wedi ein helpu i barhau â’n gwaith yn y gymuned.


“Weithiau rydyn ni’n cael ein hanghofio am dipyn, ac mae pobl yn tueddu i ddewis elusennau mwy, cenedlaethol ar gyfer pethau o’r fath, ond pan fyddwch chi’n dewis elusen fach fel ni mae’r arian yn mynd yn syth i helpu pobl yn eich ardal leol. Felly, diolch yn fawr i bawb dan sylw… mae’r codwyr arian hyn wedi bod mor bwysig i ni drwy’r pandemig.”


CODWYD DROS £ 1,000 YN DDIWEDDAR!


Cyfanswm un o’r codwyr arian hyn oedd £ 1,040 anhygoel yn ddiweddar, y mae’r elusen yn hynod ddiolchgar amdano. Codwyd £690 o hyn trwy Facebook, a rhoddwyd £350 arall oddi ar-lein. Sefydlwyd y codwr arian hwn er cof am Dorothy ‘Dolly’ Tomlinson a fu farw fis diwethaf, yn 85 oed, gan wyres Dolly, Linsey Cavanagh.


Dywedodd Linsey: “Roedd Dolly bob amser yn edrych allan am bawb. Dysgodd ei theulu i gadw at ei gilydd a heb ofni siarad â’i gilydd os oeddent yn teimlo eu bod yn isel. Roedd hi’n berson mor gariadus, gofalgar ac rydym wedi bod mor lwcus i’w chael hi yn ein bywydau.”

Roedd cefnogi iechyd meddwl yn bwysig iawn i Dolly gan fod ei mab Wayne, yn anffodus, wedi marw o hunanladdiad 30 mlynedd yn ôl, dim ond 25 oed.


“WNAETH COLLI EI MAB GAEL EFFAITH MAWR”


Eglura Linsey: “Roedd Dolly yn canolbwyntio’n fawr ar y teulu ac roedd colli ei mab 30 mlynedd yn ôl yn effeithio’n aruthrol arni. Er bod hynny’n wir, byddai bob amser yn ceisio dod o hyd i’r pethau cadarnhaol ym mhopeth.


” Roedd Dolly yn dweud drwy’r amser basai hi wedi hoffi bod ‘na le 30 mlynedd yn ol ble gallai Wayne wedi mynd I sgwrsio gyda rhywun profiadol am ei drafferthion. Roedd yn gwbl annisgwyl gan ei fod yn berson mor hwyliog, cariadus gyda llawer i fyw iddo.”


Mae Linsey a’r teulu hefyd yn credu y byddai Dolly yn hapus bod yr arian a godir yn cefnogi elusen leol lai gan fod hyn yn rhywbeth yr oedd bob amser yn ceisio’i wneud drwy gydol ei hoes.


Ychwanegodd Linsey: “Roeddem yn chwilio am elusen iechyd meddwl leol sy’n helpu pobl leol a ffrind i’m brodyr a argymhellodd Advance Brighter Futures. Roedd Dolly bob amser yn credu y byddai elusennau lleol yn cael eu hanwybyddu ar gyfer elusennau mwy a chredent bob amser, er bod elusennau cenedlaethol yn dda, y gall elusennau lleol gael effaith ar bobl yn bersonol. Byddai Dolly bob amser yn sicrhau ei bod yn cefnogi elusennau lleol gymaint ag y gallai.”


Os hoffech chi greu codwr arian Facebook ar gyfer Advance Brighter Futures, edrychwch ar dudalen Facebook ABF, sydd â gwybodaeth am sut i sefydlu un.


Neu os ydych chi’n meddwl y gallwch chi helpu ABF gyda’i ymdrechion codi arian mewn ffordd wahanol, anfonwch e-bost Cath@abfwxm.co.uk


Comments


bottom of page