top of page

“Siâp gan Rieni Yn Wrecsam, I Rieni yn Wrecsam” – Dylai Rhieni Newydd a Disgwyliedig Wybod am y Grwp


Llun: Vicky Wright yn sesiwn grŵp diweddaraf Chi & Bwmp; a Chi a’ch babi lle mae rhieni’n dangos hoff degan eu babanod.


Os ydych yn disgwyl plentyn neu wedi cael plentyn yn ddiweddar, a oeddech yn gwybod y gallwch elwa o sesiynau grŵp wythnosol AM DDIM sydd wedi’u datblygu’n benodol i’ch cefnogi chi a’ch anghenion?


Sefydlodd yr elusen iechyd meddwl a lles leol Advance Brighter Futures (ABF) ei phrosiect PRAMS (Parent Resilience and Mutual Support) yn 2014, sydd ar gael i famau a thadau a hoffai gael rhywfaint o gymorth ychwanegol drwy’r heriau o fod yn rhieni’n gynnar.


Mae ABF yn defnyddio’r adborth gan rieni y mae’n eu cefnogi i ddatblygu PRAMS yn barhaus, sef sut y crëwyd dau grŵp o fewn y prosiect; Chi a’ch Babi a Chi a’ch Bwmp.

Mae Chi a’ch Bwmp yn grŵp ar gyfer rhieni sy’n disgwyl. Mae’n rhedeg ar ddydd Mercher ac yn cynnwys pum sesiwn hwyliog o 90 munud yn wythnosol.


Mae Chi a’ch Babi yn grŵp ar gyfer rhieni newydd (gyda babi hyd at 12 mis oed fel canllaw bras) sy’n digwydd ddydd Iau ac sydd â chwe sesiwn gyfeillgar o 90 munud yn wythnosol.


Caiff y ddau grŵp hyn eu hariannu’n llawn gan raglen Teuluoedd yn Gyntaf, Cyngor Wrecsam, ac maent yn cael eu rhedeg yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Bydd y sesiynau nesaf ar gyfer Chi a’ch Babi yn dechrau ddydd Iau 25 Mehefin.



“SIÂP GAN RIENI YN WRECSAM”


Dywedodd Lorrisa Roberts, Prif Swyddog ABF: “Yn Advance Brighter Futures rydym bob amser yn gwrando ar y bobl rydym yn eu cefnogi, gan mai nhw yw’r rhai a fydd yn aml yn gwybod beth sy’n iawn i’w lles eu hunain, a’n prosiect PRAMS yw’r enghraifft orau o sut rydym wedi defnyddio’r hyn y mae pobl wedi’i ddweud wrthym i greu prosiect yn benodol ar gyfer pobl yn Wrecsam.


· “Y ddau grŵp o fewn PRAMS; Chi a’ch Babi a Chi a’ch Bwmp wedi cael eu llunio gan rieni yn Wrecsam, i rieni yn Wrecsam. Dywedodd nhw wrthym beth oedd ei angen arnynt ac mi wnaethon ni ymateb i hyn.


“Rydyn ni wedi dysgu sut mae’n bwysig canolbwyntio ar rieni, oherwydd os yw rhieni’n hapus ac yn ffynnu, bydd y babi hefyd. Nid yw’r grwpiau hyn yn ganllaw cam wrth gam i ofalu am fabi, mae hyn i gyd yn ymwneud â sut y bydd lles a hapusrwydd rhiant yn cael effaith ganlyniadol i’r baban.”


Adborth gan riant: “Rydyn ni wedi dysgu gan y grŵp nad oes rhiant perffaith, ond yr hyn sy’n bwysig yw bod yn gariadus, gofalgar a deall eich plentyn.”


BYDDWCH I GYD YN DYSGU ODDI WRTH BOBL ERAILL”


Dywedodd Vicky Wright, sy’n cynnal y sesiynau grŵp: “Rydyn ni’n creu amgylchedd lle mae’r rhieni’n arwain y drafodaeth. Os ydych chi’n disgwyl plentyn, gall fod yn hawdd meddwl ‘ydw i’n mynd i fod yn ddigon da?’, ac yna ar ôl i’ch babi gyrraedd, gall llawer o amheuon eraill ymripio’n hawdd. Drwy rannu’n agored â phobl yn yr un sefyllfa – a fydd â llawer o’r un amheuon – fe welwch nad oes dim byd rhyfedd am yr hyn rydych chi’n ei brofi o gwbl, a byddwch i gyd yn dysgu oddi wrth eich gilydd.”


Adborth gan riant: “Mae’r cyfrinachedd yn golygu y gallwn siarad yn hyderus am unrhyw beth rydym yn gofidio amdano ac y bydd yn parhau’n breifat.”


MAE’R CLOI MAWR WEDI BOD YN WAHANOL, OND “MOR WERTH CHWEIL”


Mae holl wasanaethau ABF wedi gorfod addasu i’r heriau sy’n wynebu nhw yn ystod y Cloi Mawr ac nid yw’r sesiynau grŵp hyn yn eithriad, gyda’r grwpiau’n cyfarfod drwy Zoom ar hyn o bryd. Mae Vicky wedi croesawu’r her o orfod cwrdd â’r grŵp yn ddigidol.


Eglurodd Vicky: “Mae wedi bod yn wahanol gorfod cwrdd drwy Zoom, ond mae mor werth chweil gan fod y cloi wedi cyflwyno hyd yn oed mwy o heriau i rieni newydd a disgwyliedig. Mae angen mwy fyth ar y system gymorth.


“Dywedodd rhywun hyd yn oed yn ein grŵp diwethaf ei bod yn hoffi’r hyblygrwydd o ddefnyddio Zoom gan ei fod yn rhoi’r rhyddid iddynt adael y grŵp i ateb y drws, neu fynd i’w babi’n hawdd ac yna ail-gymgysu pan fyddan nhw’n barod.”


DEWCH Â’CH BABI GYDA CHI


Anogir pobl sy’n mynychu’r grŵp You & Bump; You &Your Baby i ddod â’u babanod gyda nhw i’r sesiynau gan eu bod yn rhan fawr o’ch profiad.


Ychwanegodd Vicky: “Does dim lletchwith os bydd eich babi’n sgrechian, neu os oes angen i chi fwydo eich babi, neu unrhyw beth ar hyd y llinellau hynny. Mae hon yn gymuned y mae eich babi’n rhan ohoni hefyd.


“Mae’n lle da iawn i gwrdd â phobl eraill. Mae llawer o’r rhieni wedi ffurfio bondiau parhaol gyda’i gilydd ac rydym wedi clywed bod rhai wedi creu grwpiau WhatsApp fel y gallant barhau i gefnogi ei gilydd ar ôl i’r sesiynau gwblhau. Mae’n rhwydwaith cymorth mewn gwirionedd… does dim cystadleuaeth rhwng pwy yw’r rhiant gorau na dim byd felly.”


Adborth gan riant: “Rwyf wedi dod o hyd i gymaint o gefnogaeth, nid yn unig yn sesiynau PRAMS You & Your Baby, ond yn ein grŵp WhatsApp, y bwriadwn barhau, ac rydym wedi trefnu crynoadau cymdeithasol ar gyfer pryd mae’n ddiogel gwneud hynny.”


DEWCH DRAW, HYD YN OED OS YDYCH CHI’N TEIMLO EICH BOD YN CAEL EICH CEFNOGI


Rhywbeth y mae ABF yn awyddus i’w bwysleisio yw nad grŵp i rieni yn unig yw hwn sy’n teimlo eu bod yn cael trafferth ar hyn o bryd, gan fod llawer o fanteision i fynychu’r grwpiau a fydd yn eich helpu i atal straen ymhellach i lawr y llinell.


Dywedodd Vicky wrthym: “Rydyn ni eisiau cyfleu’r neges, hyd yn oed os ydych eisoes yn teimlo eich bod yn cael eich cefnogi’n deg ac efallai ddim yn teimlo bod angen ein grwpiau arnoch, mae digon o resymau i ddod o hyd. Ceisiwch weld hyn fel ffordd ychwanegol o ofalu am eich lles eich hun.


“Gall fod yn ffordd dda o ddod o hyd i bobl eraill sy’n gallu atgyfnerthu’r pethau cadarnhaol y gallwch eu gwneud i gefnogi eich lles, a fydd yn ei dro yn eich helpu i gael y gorau o fod yn rhiant. Mewn sawl ffordd mae’n fater o gymryd rhai camau er mwyn i chi allu mwynhau eich babi hyd yn oed yn fwy.”


Adborth gan riant: “Mae wedi fy helpu i sylweddoli nad ni yw’r unig un a’n bod ni i gyd yn cefnogi ein gilydd, mamau tro cyntaf ai peidio.”


Cofiwch, mae’r ddau grŵp yn rhedeg yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, gyda’r sesiynau nesaf ar gyfer You & Your Baby yn dechrau ddydd Iau 25 Mehefin.


I gofrestru eich diddordeb yn y naill neu’r llall o’n grwpiau, anfonwch e-bost atom drwy info@abfwxm.co.uk neu ffoniwch ni ar 01978 364777.

Comments


bottom of page