top of page

Sut mae Zoe yn tynnu ar ei phrofiadau ei hun i helpu eraill yn y gymuned


Mae’r weithwraig newydd Advance Brighter Futures, Zoe Whitehead, am ddefnyddio ei phrofiadau bywyd ei hun i helpu eraill yn y gymuned leol sy’n profi problemau llesiant.


Mae Zoe, 30, wedi cael ei chyflogi gan elusen iechyd meddwl a lles Wrecsam Advance Brighter Futures (ABF) fel ei Swyddog Datblygu Busnes. Meddai: “Rwyf bob amser wedi bod yn eiriolwr dros iechyd meddwl a lles, felly rwyf wrth fy modd yn ymuno â thîm ABF.”


Cafodd Zoe ddiagnosis o Gam 3 Hodgkins Lymphoma (canser prin sy’n datblygu yn y system lymffatig) ym mis Ebrill 2020. Cafodd driniaeth yn ystod y pandemig a dathlodd flwyddyn o wellhad dros dro ym mis Ionawr 2022.


Arweiniodd adferiad Zoe ati i chwilio am swydd lle byddai’n gallu helpu eraill, ac mae hi bellach wedi llwyddo i ddod o hyd iddi yn ABF. Mae’n esbonio: “Rwyf wir wedi cael fy ysbrydoli gan y rhai sydd wedi fy helpu ar fy nhaith gyda diagnosis canser, a’r brwydrau iechyd meddwl dilynol sy’n dod yn sgil hynny, ac felly rwy’n hynod angerddol am helpu eraill a gallu defnyddio fy mhrofiad personol fy hun gydag iechyd meddwl i helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl eraill.”


Mae Zoe wedi mwynhau ei hamser byr gydag ABF hyd yma, gan ddweud wrthym: “Rwy’n hynod falch o fod yn rhan o’r tîm ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at helpu i barhau â’r gwaith anhygoel y maent


yn ei wneud i’r gymuned a helpu pobl leol Wrecsam gyda’u hiechyd meddwl a’u lles.

“Ac mae’n flwyddyn gyffrous iawn i Advance Brighter Futures hefyd, gyda chwblhau ein hestyniad a’r adnewyddu adeiladu, ac rydym hefyd yn dathlu ein pen-blwydd yn 30 oed eleni!”


Ychwanegodd Prif Swyddog Advance Brighter Futures, Lorrisa Roberts: “Mae Zoe yn hynod ysbrydoledig i bob un ohonom, ar ôl cael cymaint o heriau yn ei bywyd yn. Mae hi wedi llwyddo i’w goresgyn, ac roedd ei angerdd dros helpu eraill i fynd yn eu blaen yn amlwg yn ystod y broses gyfweld. Rydym wrth ein boddau o’i chael hi ac rwy’n siŵr y bydd hi’n ychwanegiad gwych i’r tîm.”


I ddysgu mwy am Advance Brighter Futures a’i wasanaethau, ewch i www.advancebrighterfutureswrexham.co.uk


Comments


bottom of page